Fostering in Wales

Maethu yng Nghymru

Pan fyddwch yn ymuno â Chymdeithion Gofal Maeth Cymru byddwch yn ymuno â darparwr maethu brwdfrydig a llawn cyffro sy’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r plant rydym yn gofalu amdanynt.

Gwneud Ymholiad Nawr >>

Croeso i Gymdeithion Gofal Maeth Cymru

Sefydlwyd Cymdeithion Gofal Maeth ym 1997 ac rydym wedi bod yn darparu gofal maeth yng Nghymru ers hynny. Rydym bob amser am recriwtio mwy o ofalwyr maeth yng Nghymru ac rydym yn cynnig lwfansau maethu cystadleuol, cymorth lleol 24/7, a hyfforddiant ar-lein gwych.

Os oes gennych ystafell sbâr, a’ch bod yn hŷn na 21 mlwydd oed, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, mae Cymdeithion Gofal Maeth Cymru eisiau clywed gennych.

Datganiad o Ddiben

Darllenwch y datganiad llawn

Buddion gweithio gyda FCA

Gwasanaeth cyngor 24/7

Hyfforddiant parhaus rhagorol

Taliadau cystadleuol

Grwpiau cymorth lleol

Mynediad at eich tîm maethu lleol

Gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol lleol

Ymweld â swyddfa

Abergele

Cymdeithion Gofal Maeth, Llawr Isaf, Adeilad 5510, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, LL22 8LJ

Ffon: 01745 778610

Cysylltwch

Pen-y-bont ar Ogwr

Swît 4, Elm Court, Heol y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SR

Ffon: 01792 315800

Cysylltwch

Sut mae FCA yn cynnig cymorth yng Nghymru?

Yr agwedd ‘gallu gwneud’ sy’n gwneud maethu gyda FCA yn brofiad gwerthfawr iawn. Bydd ein tîm profiadol o weithwyr maethu proffesiynol yn darparu’r lefelau uchaf o gymorth lleol i chi. Rydym yn gwneud yn siŵr na fyddwch byth yn teimlo’n unig, o grwpiau cymorth misol ar gyfer rhieni maeth i lawer o weithgareddau a digwyddiadau, cewch eich croesawu’n syth i deulu ein hasiantaeth faethu annibynnol a byddwn yn gofalu amdanoch chi hefyd.

  • Cymorth lleol 24/7: yn cynnwys grwpiau cymorth misol ar gyfer pob rhiant maeth yng Nghymru.
  • Dull amlbroffesiynol o gefnogi teuluoedd maeth: rhwydwaith rhanbarthol a chenedlaethol o arbenigwyr gofal plant a allai weithio gyda phob plentyn neu berson ifanc i ofalu am bob agwedd o’u lles.
  • Hyfforddiant a Datblygiad.
  • Cyngor annibynnol gydag aelodaeth FosterTalk AM DDIM.
  • Calendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
  • Cymorth ar-lein: Mynediad at borth i ddarllen am bopeth sy’n digwydd yng Nghymdeithion Gofal Maeth, yn ogystal â mynediad at ddisgowntiau anhygoel ar brofiadau teuluol, siopa, a bwytai ar draws y DU.
  • Diwrnod Gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth.

Yma i’ch cefnogi chi

Rydym yn darparu’r sylfeini er mwyn i’n teuluoedd maeth greu gwahaniaethau cadarnhaol a pharhaol; mae hyn wrth galon popeth a wnawn yn ein gwasanaeth maethu yng Nghymdeithion Gofal Maeth Cymru. Mae gennym dîm cryf, proffesiynol a sefydlog ar draws Cymru sy’n cefnogi ein rhieni maeth, plant a phobl ifanc ym mhob agwedd o'u bywyd teuluol. Rydym ar gael i’ch cefnogi 24/7 drwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn cynnal ystod o grwpiau cymorth rheolaidd ar draws Cymru gyfan sy’n rhoi’r cyfle i rieni maeth gryfhau perthynas gyda rhieni maeth eraill yn yr ardal. Gall rhieni maeth ddod i’r grwpiau ar gyfer sgwrs anffurfiol i rannu eu gwybodaeth ac arfer gorau, cael cymorth a hyfforddiant gyda’n hyfforddiant ar-lein, neu fynychu Grwpiau ADAPT i gefnogi teuluoedd mewn modd therapiwtig, neu ddod i’r grwpiau i gael coffi a chacen a dal i fyny gydag eraill. Mae’n gyfle gwych i rieni maeth a staff gefnogi ei gilydd.

Gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghymru

Cael hwyl gyda’n rhieni maeth, plant a phobl ifanc yw’r hyn sy’n gwneud Cymdeithion Gofal Maeth Cymru yn arbennig ac yn ein gwneud mor gyfeillgar a chroesawgar.

Rydym yn cynnal gweithgareddau llawn hwyl a chyffrous yn rheolaidd ar gyfer pawb drwy gydol y flwyddyn megis; teithiau dydd i ddiwrnodau hwyl i’r teulu, sglefrio iâ, dringo yng Nghaernarfon, teithiau i’r traeth a llawer mwy, nid oes diwedd i’r rhestr!

Yn ystod misoedd yr haf byddwn yn cynnal un digwyddiad pob wythnos, wedi’i ddewis gan ein pobl ifanc, i ddod â phawb yn nheulu ehangach yr FCA ynghyd. Bob blwyddyn rydym yn sicrhau bod ein côr Cymru yn cymryd rhan yn y Big Sing Off, ein cystadleuaeth genedlaethol ar gyfer corau (ac rydym wedi ennill ambell waith). Yn 2018, roeddem yn ffodus i gael y cyfle i gynnal y digwyddiad a chroesawu dros 600 o blant, pobl ifanc, rhieni maeth a staff i Abergele i ganu eu gorau glas i weld pa gôr fyddai’n bencampwyr Big Sing Off.

Ar ôl holl hwyl yr haf, mae ein partïon a dathliadau Nadoligaidd yn dechrau gyda gwobrau cyflawniad i’n pobl ifanc a phlant teuluoedd biolegol yn ogystal â phartïon Nadolig lle bydd pawb yn gallu ymuno yn hwyl yr ŵyl!

Datganiad o Ddiben - Cymraeg

Darllenwch y datganiad llawn

Canllaw i Bobl Ifanc

Diolch o galon am ddod â’n teulu mawr FCA Cymru ynghyd mewn digwyddiad llwyddiannus iawn! Roeddem wrth ein bodd gyda’r ŵyl. Mae wedi helpu’n sylweddol gyda hyder M. Mae wedi ei helpu i gyfathrebu’n well a gwneud ffrindiau am oes sy’n debyg iddi hi".

Rhiant maeth FCA Cymru

Gair o groeso gan April Newman, Rheolwr Cofrestredig

Helo, April ydw i, Rheolwr Cofrestredig Cymru

Yma yn FCA Cymru, rwy’n falch ein bod yn rhagweithiol ac arloesol fel tîm. Mae ein teuluoedd maeth wrth galon popeth a wnawn ac rydym bob amser yn ystyried mentrau newydd i ymgysylltu â nhw a datblygu’r gwasanaethau lleol rydym yn eu cynnig.  Rydw i wrth fy modd o gael tîm o weithwyr maethu proffesiynol sy’n fedrus, profiadol a gwybodus iawn. Mae gennym lawer o gymhelliant, egni ac uchelgais i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y plant a phobl ifanc rydym yn gofalu amdanynt ac i gefnogi ein rhieni maeth hefyd.

Rydym yn ymroddedig i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a hybu eu lles a gwella’r canlyniadau iddynt. Mae anghenion y plant bob amser o’r pwys mwyaf ym mywyd a phrosesau gwneud penderfyniadau o fewn yr asiantaeth.

Rydym yn angerddol dros ddarparu profiadau cyffrous, creadigol ac ystyrlon i’r plant, sy’n magu eu brwdfrydedd am fywyd ac yn eu helpu i dyfu a datblygu’n gadarnhaol mewn sawl ffordd. Rwy’n meddwl bod cynnwys y plant, rhieni maeth a theuluoedd biolegol fel partneriaid o fewn FCA Cymru yn hollbwysig.

Mae’r ystod o weithgareddau a digwyddiadau rydym yn eu darparu yn boblogaidd iawn, boed hynny’n sglefrio iâ, mynd i Ninja Warrior, nofio, helfeydd trysor, diwrnodau ar y traeth, nosweithiau gyrfaoedd, gorymdeithiau Pasg neu weithgareddau awyr agored yn ein diwrnod hwyl blynyddol, anogir pawb i gymryd rhan (gan fy nghynnwys i!). Eleni, rydym yn lansio ein Prosiect Eco a’n Cyngor Eco ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld ein teuluoedd maeth yn rhan o’r prosiect hwn. Byddwn yn cynnal Seremoni Gwobrau Cyflawniad ym mis Tachwedd bob blwyddyn, i gydnabod y cynnydd arbennig mae ein plant wedi’i gyflawni; ni fyddai hyn yn bosibl heb gymorth parhaus ein teuluoedd maeth sydd bob amser yn dangos cymaint o wydnwch. Ni fydd wythnos byth yn mynd heibio heb ein bod yn derbyn tystysgrifau neu luniau gan deulu maeth sy’n dangos cyflawniadau gwych ein plant.

Yn FCA rwy’n falch ein bod yn dathlu llawer o deuluoedd maeth ac aelodau staff ‘amser i serennu’; gyda’r arferion rhagorol yn cael eu dangos tro ar ôl tro.  Rydym hefyd yn cydnabod gwobrau gwasanaeth hir ar gyfer teuluoedd maeth bob blwyddyn i ddiolch iddynt am yr oriau, wythnosau a misoedd maent wedi’u rhoi i faethu.  Fel FCA Cymru, rydym yn frwdfrydig a llawn cyffro i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r plant rydym yn gofalu amdanynt a byddem wrth ein bodd petaech yn ystyried ymuno â ni i wneud gwahaniaeth i fywydau’r plant rydym yn gofalu amdanynt.

Cyfarfod Y Tîm

Siarad â’n tîm

P’un ai ydych yn barod i ddechrau eich taith neu am gael sgwrs ag arbenigwr, rydym yma i siarad.



Mae’r cwmni yn trin gofynion GDPR o ddifrif wrth sicrhau preifatrwydd y data personol rydych yn ei roi i ni ac yn gwneud yn siŵr y caiff ei brosesu’n gyfreithlon. Gweler ein hysbysiad preifatrwyddsy’n esbonio sut bydd y cwmni yn rheoli ac yn defnyddio eich data personol. Drwy ddefnyddio’r ffurflen hon, rydych yn cytuno gyda sut mae’r wefan hon yn storio a thrin eich data.

Drwy ddefnyddio’r ffurflen hon rydych yn cytuno â storio a thrin eich data gan y wefan hon.